Ymaddasu i newid hinsawdd (climate change adaptation) yw'r broses o ymaddasu ein ffordd o fyw er mwyn ymdopi ag effeithiau newid hinsawdd.[1] Nod addasu yw lleihau neu osgoi niwed, a manteisio ar gyfleoedd a systemau adnewyddadwy, naturiol, organig.[1] Gall gweithredoedd addasu fod naill ai’n gynyddrannol neu’n drawsnewidiol.[2] Mae'r angen am addasu'n amrywio o le i le, yn dibynnu ar y risg i systemau dynol neu ecolegol.
Gellir grwpio gweithredoedd addasu yn dri chategori:
addasiad strwythurol a ffisegol (gellir grwpio hyn yn beirianneg a'r amgylchedd adeiledig, technolegol, seiliedig ar ecosystemau, gwasanaethau);
Addasiad cymdeithasol (addysgol, gwybodaeth, ymddygiadol); ac
Addasiad sefydliadol (sefydliadau economaidd, cyfreithiau a rheoleiddio, polisïau a rhaglenni'r llywodraethau).[2] : 845
Mae addasu (neu 'ymaddasu') yn arbennig o bwysig mewn gwledydd sy'n datblygu gan mai'r gwledydd hynny sydd fwyaf agored i effeithiau gwaethaf newid hinsawdd[3] ac sy'n dioddef fwyaf.[4][5] Mae'r gallu yma i addasu wedi'i ddosbarthu'n anwastad ar draws gwahanol ranbarthau a phoblogaethau, ac yn gyffredinol mae gan wledydd sy'n datblygu lai o allu i addasu.[6] Mae cysylltiad agos rhwng gallu ymaddasol a datblygiad cymdeithasol ac economaidd.[7]
Yn gyffredinol, mae lefelau uwch o ddatblygiad yn golygu gallu uwch i addasu , ond mae rhai datblygiadau yn cloi pobl i mewn i batrymau neu ymddygiadau penodol. Ac efallai y bydd gan yr ardaloedd mwyaf datblygedig allu is i ymaddasu i fathau newydd o beryglon naturiol, nad ydynt wedi'u profi o'r blaen, o'i gymharu â pheryglon naturiol mwy cyfarwydd. Mae costau economaidd ymaddasu i newid hinsawdd yn debyg o gostio biliynau o ddoleri bob blwyddyn am y degawdau nesaf.
↑ 2.02.1Noble, I.R., S. Huq, Y.A. Anokhin, J. Carmin, D. Goudou, F.P. Lansigan, B. Osman-Elasha, and A. Villamizar, 2014: Chapter 14: Adaptation needs and options. In: Climate Change 2014: Impacts, Adaptation, and Vulnerability. Part A: Global and Sectoral Aspects. Contribution of Working Group II to the Fifth Assessment Report of the Intergovernmental Panel on Climate Change [Field, C.B., V.R. Barros, D.J. Dokken, K.J. Mach, M.D. Mastrandrea, T.E. Bilir, M. Chatterjee, K.L. Ebi, Y.O. Estrada, R.C. Genova, B. Girma, E.S. Kissel, A.N. Levy, S. MacCracken, P.R. Mastrandrea, and L.L.White (eds.)]. Cambridge University Press, Cambridge, United Kingdom and New York, NY, USA, pp. 833-868.